Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn hwb posib i swyddi yn y Canolbarth

16 Tachwedd 2020

Gallai sefydlu Canolfan Sbectrwm Genedlaethol yn y Canolbarth arwain at greu dros 60 o swyddi llawn-amser, uchel eu gwerth, yn ôl Asesiad Effaith Economaidd gan Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth yn 2020.

Amcangyfrifa’r astudiaeth y gallai rhwng 42 a 66.5 o swyddi llawn amser gael eu creu o ganlyniad uniongyrchol i sefydlu’r Ganolfan Sbectrwm, yn ogystal â hyd at 172 o swyddi adeiladu dros dro yn ystod datblygiad graddol y Ganolfan.

Mae manylion pellach i’w cael ar wefan newyddion y Brifysgol.