Y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn sbarduno cynllun am ganolfan sbectrwm genedlaethol newydd

18 Medi 2018

Bu Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, yn traddodi araith gyweirnod mewn digwyddiad ffocws arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw, ddydd Mawrth 18 Medi 2018, digwyddiad gafodd ei gynnull i ystyried sefydlu canolfan sbectrwm arloesol ar gyfer y DU yng nghanolbarth Cymru.

Bydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol yn ymchwilio, datblygu a phrofi’r genhedlaeth nesaf o systemau a chymwysiadau sbectrwm-ddibynnol sydd eu hangen ym Mhrydain, ac ar yr un pryd yn creu swyddi newydd uchel eu gwerth yng Nghymru.

Nod y ganolfan genedlaethol hon yw creu ecosystem sy’n cwmpasu’r llywodraeth, diwydiant, a’r byd academaidd i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

Mae manylion pellach i’w cael ar wefan newyddion y Brifysgol…