Hyfforddiant
Mae Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gradd MSc mewn Peirianneg Sbectrwm Radio, sy’n ymdrin â theori sylfaenol a chymwysiadau’r sbectrwm radio, ac yn ymwneud â theori craidd ar gyfer y maes, themâu a arweinir gan ymchwil, cymwysiadau ymarferol, a modiwlau sgiliau peirianneg.
Cydlynydd y cwrs MSc yw Dr Syeda Fizzah Jilani, Darlithydd yn Adran Ffiseg y Brifysgol. Cyn dechrau yn ei swydd yn Aberystwyth, bu Dr Jilani yn gweithio fel gwyddonydd ymchwil ym Mhrifysgol Maine, UDA, ar brosiect Adran Ynni yr Unol Daleithiau (DOE) ar drawsnewid technoleg synwyryddion RF amgylcheddol ar gyfer diwydiant. Dyfarnwyd PhD iddi mewn Antenâu ac Electromagneteg o Brifysgol Queen Mary yn Llundain yn 2018.
Mae diddordebau ymchwil Dr Jilani ym maes electromagneteg, lluosogi tonfeydd radio, monitro’r sbectrwm RF, antenâu y gellir eu hailgyflunio, antenâu hyblyg ar gyfer electroneg gwisgadwy’r genhedlaeth nesaf, araeau antena tonfeydd milimetr ar gyfer 5G a thu hwnt, arwynebau meta printiedig amledd uchel, synwyryddion tonfeydd acwstig ar y wyneb, a thrawsddygiaduron.
Mae’r Athro Andrew Evans yn dysgu ar y cwrs hefyd ac mae modd astudio’r cwrs yn rhannol neu’n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Brifysgol hefyd yn datblygu cyrsiau eraill mewn Peirianneg Sbectrwm Radio wedi’u hanelu at fyfyrwyr yn ogystal â diwydiant a busnesau lleol sydd am uwchsgilio staff yn y meysydd cynyddol bwysig hyn.