Cydweithio

Mae cydweithio â’r diwydiant, llywodraeth a phartneriaid eraill i fynd i’r afael â heriau’n gysylltiedig â’r sbectrwm radio yn elfen annatod o weledigaeth y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol. Yn wir, mae’r prosiect yn deillio o gydweithio agos ac ymgysylltu gyda phartneriaid o’r diwydiant, gan ymateb i anghenion penodol ar adeg o newid technegol mawr. Mae’r prosiect yn asio â blaenoriaethau llywodraethau rhanbarthol, Cymru a’r DU o ran harneisio arloesedd i sbarduno twf economaidd.

 

Mae gweithgaredd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol wedi’i strwythuro ar hyn o bryd o dan dri philer a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni allweddol ar gyfer pob piler yn ogystal ag ystod o bartneriaid diwydiant eraill. Mae’r prosiect wedi’i strwythuro o fewn tri philer:

  1. Amddiffyn a Diogelwch
  2. Trafnidiaeth a Chyfathrebu
  3. Amaeth-dechnoleg

Gall sectorau eraill, megis iechyd, ddod yn fwy amlwg yn ystod y broses ddatblygu.

Bargen Twf Canolbarth Cymru

Elfen allweddol arall o’n cydweithio yw datblygu’s Ganolfan Sbectrwm oddi mewn i Fargen Twf Canolbarth Cymru,

Yn rhan o’r weledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, mae’r Fargen Dwf yn fuddsoddiad hirdymor sy’n darparu cyllid cyfalaf i gefnogi seilwaith economaidd o bwys rhanbarthol sy’n sbarduno buddsoddiad gan y sector preifat ac yn ysgogi twf.

Dan arweiniad Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, caiff y Fargen Dwf ei chefnogi gan ymrwymiad cyfun o £110m gan Lywodraethau’r DU a Chymru i sbarduno buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach. Ei nod yw creu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant, gan chwarae rhan allweddol mewn ysgogi adferiad a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.

Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddwyd fod y Ganolfan Sbectrwm wedi cael sêl bendith i symud ymlaen i ail gymal Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n werth miliynau o bunnoedd ac mae gwaith pellach yn mynd rhagddo nawr ar yr achos busnes ar ei chyfer.

Mae’r Ganolfan Sbectrwm ymhlith wyth prosiect o bwys ar y rhestr fer gyfredol sy’n cael eu hystyried ar gyfer derbyn cyllid o’r Fargen Dwf. Caiff penderfyniadau terfynol ynghylch dyfarnu cyllid eu gwneud yn dilyn trydydd cymal y broses o ddatblygu achosion busnes.