Y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol
Nod y Ganolfan yw helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am gymwysiadau a thechnolegau newydd sy’n defnyddio’r sbectrwm radio gan gynnwys meysydd megis ffermio deallus, Rhyngrwyd y Pethau, cerbydau ymreolaethol ar y tir, y môr a’r awyr, tu hwnt i 5G, a monitro iechyd o bell.
Bydd y Ganolfan yn gwneud defnydd o amgylcheddau arfordirol, ucheldirol a gwledig amrywiol yng Ngheredigion a Phowys, gydag arsyllfa ganolog yn adeilad yr Arglwydd Milford ar gampws Gogerddan.
Mae’r prosiect yn cael ei ddatblygu fel rhan o Fargen Twf Canolbarth Cymru ac mae’n seiliedig ar ymgysylltu gweithredol ag amrywiaeth o sectorau diwydiant ac adrannau’r llywodraeth.
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru, sydd wedi’i gosod o fewn Gweledigaeth ehangach ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru, yn fuddsoddiad hirdymor sy’n darparu cyllid cyfalaf i gefnogi seilwaith economaidd o bwys rhanbarthol sy’n sbarduno buddsoddiad gan y sector preifat ac yn ysgogi twf.
Wedi’i harwain gan Gynghorau Sir Ceredigion a Phowys, mae’r Fargen Twf yn cael ei chefnogi gan ymrwymiad cyfun o £110m gan Lywodraethau’r DU a Chymru i drosoli buddsoddiad cyhoeddus a phreifat pellach. Ei nod yw creu swyddi hirdymor a chynyddu cynhyrchiant, gan chwarae rhan allweddol mewn ysgogi adferiad a thwf economaidd ar draws y rhanbarth.
Hyfforddiant a Chyfnewid Gwybodaeth
Myfyrwyr meistr, gweithwyr proffesiynol a grwpiau defnyddwyr ym maes peirianneg sbectrwm radio
Ymchwil
Technolegau di-wifr a’u cymwysiadau
Arbrofi
Cysyniadau newydd ym maes datblygu masnachol a gwelliannau i alluoedd neu wasanaethau presennol.
Cynghori
Defnyddio gwybodaeth academaidd, mewnwelediad sectoraidd ac ymchwiliad cydweithredol.
Ymgysylltu
Dod ag arloeswyr diwydiant, galluoedd offer a thalent sy’n gyrru diwydiannau sy’n dibynnu ar sbectrwm ynghyd.
Mae gweithgaredd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol wedi’i strwythuro ar hyn o bryd o dan dri philer a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni allweddol ar gyfer pob piler yn ogystal ag ystod o bartneriaid diwydiant eraill. Mae’r prosiect wedi’i strwythuro o fewn tri philer:
- Amddiffyn a Diogelwch
- Trafnidiaeth a Chyfathrebu
- Amaeth-dechnoleg
Gall sectorau eraill, megis iechyd, ddod yn fwy amlwg yn ystod y broses ddatblygu.
Bydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol yn seiliedig ar fodel canolbwynt ac adenydd, gydag arsyllfa ganolog yn ogystal ag amrywiaeth o amgylcheddau ystod radio awyr agored ar gyfer profi ac arbrofi.
Mae gan y Brifysgol eisoes amrywiaeth o amgylcheddau awyr agored, gan gynnwys gwledig, arfordirol ac ucheldirol, sy’n addas ar gyfer y dibenion hyn.
Caiff cyfleusterau eraill eu datblygu i’w defnyddio drwy gytundeb yng Ngheredigion a Phowys fel bod yr amgylcheddau canlynol ar gael i rwydwaith o ddefnyddwyr sbectrwm radio ledled y DU:
- Amgylchedd labordy dan do
- Amgylchedd labordy awyr agored
- Cyfleusterau cynadledda
- Cyfleuster profi dronau
- Cyfleuster profi radar
- Cyflymder uchel/cysylltedd gwledig
- Offer synhwyrydd
- Cyfleuster profi ffyrdd
- Cyfleuster profi rheilffordd
- Ardal fawr gyhoeddus
Ein pobl
Trwy greu lleoliad ffisegol, rhwydwaith diwydiant a hyfforddwyr i weithio gyda a datblygu sgiliau mewn amrywiaeth o dechnolegau sbectrwm.
Diwydiant
Mae’r prosiect yn deillio o gydweithio ac ymgysylltu agos â phartneriaid yn y diwydiant, gan ymateb i anghenion a nodwyd. Mae gennym offer profi ac arbenigedd i helpu i ddatblygu a dilysu arloesiadau mewn technolegau sbectrwm ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd.
Llywodraeth
Mae’r prosiect yn cyd-fynd â blaenoriaethau llywodraethau rhanbarthol, Cymru a’r DU o ran harneisio arloesedd i sbarduno twf economaidd.
Buddsoddwyr
Rydym yn hwyluso llwybrau ariannu i’r Llywodraeth ac endidau preifat i fuddsoddi mewn cydweithrediadau hirdymor a arweinir gan ddiwydiant gan ganolbwyntio ar ddatrys problemau a gwella cystadleurwydd, cynhyrchiant a chynaliadwyedd diwydiannau sy’n dibynnu ar dechnolegau sbectrwm.
Partneriaid
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid addysg ac ymchwil eraill i hyrwyddo a chynyddu ymchwil a datblygiad mewn mentrau bach a chanolig, a hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng diwydiant a phrifysgolion.
Hon fydd y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol gyntaf yn y DU. Mae ei hystod eang o leoliadau a’i mynediad i diroedd amrywiol a lleoliadau anghysbell, ynghyd â gofod awyr ymyrraeth isel, yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer arbrofi â thechnoleg sbectrwm a gweithgaredd prawf cysyniad.
Mae partneriaid cyflawni allweddol y ganolfan yn cysylltu aelodau ar draws rhanbarthau a sectorau â chyrhaeddiad byd-eang. Mae lleoliad cydweithio pwrpasol ac arbenigedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hwyluso mynediad at offer, talent, datblygiadau diwydiant a defnyddwyr technolegau sbectrwm newydd.