Cyflymu arloesiadau sbectrwm trwy ymchwil ac arbrofi
Mae'r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol (CSG) yn bartneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Aberystwyth, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â thechnolegau sbectrwm radio.
Bydd y cyfleuster arloesi ac ymchwil hwn yn darparu hyfforddiant, arbenigedd ymchwil a seilwaith ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr systemau radio i harneisio potensial technolegau diwifr yn y DU.
Bydd hyn yn arwain at greu swyddi gwerth uchel yng Nghanolbarth Cymru a datblygu’r rhanbarth fel canolfan technolegau, ymchwil a phrofion sy’n seiliedig ar sbectrwm sy’n arwain y byd.